Bwyta/Yfed
Mae Diffusion yn Argymell …
I ddathlu lansio Diffusion, rydym yn gweithio ar y cyd â rhai o brif gyrchfannau cymdeithasol Caerdydd a fydd yn barod i gynnig croeso cynnes i ymwelwyr:
Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE
Partner Diffusion, Chapter, yw un o ganolfannau celfyddydau helaethaf a mwyaf dynamig Ewrop gyda sinemâu, theatrau, gofodau arddangos, stiwdios a chaffi a bar bywiog sydd ar agor bob dydd. Bachwch rywbeth blasus cyn un o ddigwyddiadau Diffusion neu fwynhau hamddena dros bryd gyda ffrindiau.
Llys Harlech, Teras Bute, Caerdydd CF10 2FE
Tafarn annibynnol unigryw sy’n cefnogi pob math o gelf a pherfformio, gyda llwyfan yn y prif far, stafell sinema a wal arddangos. Mae Porter’s, sy’n cynnig detholiad gwych o gyrfau, gwinoedd a gwirodydd byd-eang, wedi cydweithio â Waterloo Tea hefyd i weini detholiad o fathau o de o waith llaw o bedwar ban.
10 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd CF11 9LJ
Mae celfi moethus o waith llaw, soffas dwfn a thân coed cartrefol yn cyfuno’n ddiymdrech â bar a bwyty pwrpasol y Cwtsh Mawr i greu awyrgylch unigryw. Boed am wydraid amheuthun o win neu goginio cartref, mae’r Cwtsh Mawr yn cynnig lleoliad perffaith a chroeso cynnes i ymwelwyr â Diffusion.
Gostyngiadau Diffusion …
Rydym hefyd yn gweithio gyda bwytai a barrau annibynnol ledled Caerdydd i gynnig gostyngiadau arbennig i ymwelwyr â gŵyl Diffusion. Fe’u cewch trwy ddangos eich Cerdyn Ymwelwyr Diffusion a geir o leoliadau arddangos.
207 Heol y Bontfaen Dd, Caerdydd CF11 9AJ
Mae Caffi Bangkok yn cynnig blas ar goginio Thai go iawn mewn lleoliad cyfoes, byrlymus. Creir pob pryd â sawl elfen wahanol gyda’r nod o roi profiad bwyta cytbwys a dilys i chi.
15% i ffwrdd ganol wythnos
27 Stryd y Porth Gorllewinol, Caerdydd CF10 1DD
Cysyniad arloesol yw ZERO DEGREES lle defnyddir dim ond y cynhwysion mwyaf ffres i greu pizza a phasta amheuthun a phrydau cregyn gleision ysbrydoledig, a chynigir cyrfau eithriadol a fragwyd yn ein bracty ar y safle.
10% off
3 Stryd Pontcanna, Caerdydd CF11 9HQ
Clwb i aelodau yn unig, sef bar, bistro a lolfa mewn un. Fe’i hailwampiwyd yn ddiweddar i gynnig amgylchedd croesawgar, cysurus a soffistigedig ar gyfer pobl broffesiynol, parau a ffrindiau yn ystod y dydd, a naws fwy byrlymus liw nos.
Gostyngiadau ar aelodaeth
Coffee Barker
1-5 Arcêd y Castell, Y Stryd Fawr, Caerdydd CF10 1BU
Mae Coffee Barker, sydd yn Arcêd Fictoraidd hardd y Castell, yn cynnig coffi gwych a bwyd ffres bendigedig bob dydd. Enillydd gwobr y Bar Coffi Gorau.
10% i ffwrdd