Ymweld
Mae Caerdydd, prifddinas Cymru, yn ne Cymru ac mae’n hawdd ei chyrraedd o unrhyw le yn y DU neu o wledydd tramor. Mae’n ddwyawr o daith o Lundain ar y tren neu mewn car, a dim ond awr a hanner mewn car o faes awyr Heathrow.
Mewn Car
Mae’r M4 yn cysylltu Llundain yn uniongyrchol â Chaerdydd. O ganolbarth a gogledd Lloegr, a’r Alban, mae’n hawdd gyrru i Gaerdydd ar hyd yr M6, M5 a’r M50/M4. O dde a de-orllewin Lloegr, dylid dilyn yr M5 ac yna’r M4, sydd hefyd yn cysylltu â gorllewin Cymru.
Ar y Tren
Mae trenau cyflym yn cysylltu’r rhan fwyaf o ddinasoedd Prydain â Gorsaf Ganolog Caerdydd. Ychydig dros ddwyawr yw’r daith o orsaf Paddington Llundain i Gaerdydd ac mae trenau’n ymadael bob 30 munud yn ystod y dydd. Am amserau trenau, ymweler â National Rail.
Ar y Bws
Gellir cyrraedd Caerdydd ar y bws o nifer o ddinasoedd y DU ar National Express a Megabus.
Awyr
Maes Awyr Caerdydd
Mae gan ddinas Caerdydd faes awyr rhyngwladol ag ehediadau uniongyrchol rheolaidd i gyrchfannau yn y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae’n hawdd cyrraedd Maes Awyr Caerdydd, sydd 12 milltir i’r gorllewin o ganol y ddinas a 10 milltir o Gyffordd 33 yr M4. Am wybodaeth, ymweler â Maes Awyr Caerdydd.
Mae gwasanaeth X91 Bws Caerdydd yn rhedeg rhwng Maes Awyr Caerdydd a Gorsaf Ganolog Caerdydd bob dwyawr yn ystod y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Cymer y bws ryw 35 munud o’r orsaf ganolog i’r maes awyr. Gweler map llwybr ac amserlen yma.
Maes Awyr Bryste
Maes Awyr Bryste, Lulsgate Bottom, gogledd Gwlad yr Haf, yw maes awyr masnachol dinas Bryste, Lloegr, a’r cyffiniau. Gellir cyrraedd mwy na 90 o gyrchfannau o’r maes awyr hwn. Am wybodaeth, ymweler â Maes Awyr Bryste.
Ar y bws
Mae Bws Caerdydd yn darparu cludiant ledled y ddinas. Ymweler â Bws Caerdydd am lwybrau, amserlenni a mwy o wybodaeth.