Sadwrn 25 Mai / 11am – 1pm or 2 – 4pm / Am ddim (oed 12+)
Chapter
Am ddim / Nifer fach o lefydd sydd ar gael
Dewch i ddysgu sut i wneud eich cylchgrawn bach neu ‘zine’ llungopi eich hun, gyda’r artist a sylfaenydd y label recordio DIY, Mark Thomas. Llyfrynnau papur hunan-gyhoeddedig â lluniau a delweddau yw ‘zines’ (talfyriad am fanzines neu magazines). Gan olrhain eu hanes o’u gwreiddiau yn y sîn gerddorol danddaearol tan heddiw, archwilir sut y gallant fod yn gyfrwng mynegiant difyr a chreadigol. Dewch ag unrhyw ffotograffau neu ddelweddau yr hoffech eu cynnwys. Mae’r digwyddiad hwn yn rhedeg yn gyfochrog â Phenwythnos Cyhoeddi Diffusion.