650px-Wait-and-See,-2012-©-f&d-cartier1

 

Wait and See

1 Mai
31 Mai
2013

f&d cartier

Mae Wait and See yn gwneud papur ffotosensitif du-a-gwyn a goleuni – dau o hanfodion ffotograffiaeth – yn ganolbwynt i’w broses. Dadlennir papur ffotograffig cynnar yn y stafelloedd arddangos, a thrwy ryngchwarae cynnil gofod a goleuni, mae trawsnewidiad cromatig y papur yn cychwyn. Yn ôl ei gyfansoddiad a natur ei gysylltiad â goleuni, mae’r papur yn datblygu hap-batrymau lliw dros amser. Er mwyn canfod trwythiad cynyddol y papur, gofynnir i’r gwyliwr fod yn amyneddgar ac aros yn llonydd am ychydig amser er mwyn gwylio proses gudd, y mae ei hystyr yn deillio o’r union weithred yma o gael ei gweld.

Project Ffotogallery cyllidwyd gan Pro Helvetia (Cyngor Celfyddydau y Swistir), Swiss Cultural Fund in Britain a Swisslos Culture Canton de Berne.