Elin Høyland
Portread hynod agos o’r berthynas rhwng Harald and Mathias Ramen, dau frawd a fu’n byw gyda’i gilydd ar fferm fechan yn Tessanden yng nghefn gwlad Norwy, yw cyfres Elin Høyland, The Brothers.
Yn ei gwaith mae Høyland yn cofnodi ffordd o fyw a ddiflannodd bron yn llwyr. Treuliodd Mathias a Harald eu hoes ar eu fferm deuluol. Dilynai eu dyddiau batrwm rhagweladwy a chysurlon heb nemor ddim newid o flwyddyn i flwyddyn. Tystia ffotograffau Høyland i ymdeimlad anhygoel y brodyr o berthyn ac o drefn reolaidd, tra’n goroleuo ar yr un pryd deimlad ehangach o unigrwydd cefn gwlad Norwy.
Project Ffotogallery, a gyflwynir fel rhan o European Chronicles, a gyllidir gan Sefydliad Diwylliannol Ewrop ac European Commission.