Sraunus

2 Mai
6 Mai
2013
Image: Thobias Faldt
Llun: Thobias Faldt

Paul Paper a Rowan Lear

Agoriad: Nos Iau 2 Mai, 6 – 8pm (gyda thrac sain byw)

Arddangosfa: Gwener 3 – Mercher 7 Mai, 12 – 5pm (ar gau dydd Sul)

Arcêd y Frenhines (Uned 17)

Mynediad am ddim

Sioe ffotograffig deithiol yw Sraunus a grewyd yn Lithwania yn 2010. Fe’i harddangoswyd mewn saith dinas ledled y byd, a chaiff ei dangosiad cyntaf yn y DU yng Ngŵyl Diffusion

Arddangosfa sleidiau esblygol yw Sraunus, gyda phob pennod yn dangos detholiad gwahanol o fwy na deugain o artistiaid ffotograffig ifainc. Mae’r delweddau’n dangos tuedd fwyfwy amlwg mewn ffotograffiaeth ôl-ddigidol nad yw’n dibynnu ar berthynas fynegeiol â realiti, nac yn ymdrin â gwirioneddau hollgyffredinol. Yn hytrach, dilyna’r ffotograffwyr lwybr arbrofol a dod yn agos at gwestiynu’n gwerthoedd gweledol. Trwy fformat a arweinir gan ddigwyddiadau a thaflunio, mae Sraunus yn gwahodd trafodaeth feirniadol o fateroliaeth gyfnewidiol y cyfrwng hefyd, a lle’r ddelwedd ddigidol yn yr oriel.

Cywaith yw Sraunus yng Nghaerdydd rhwng y curadur, Paul Paper, a’r awdur, Rowan Lear. Am y tro cyntaf, dangosir y gwaith ffotograffig ochr yn ochr â geiriau ysgrifenedig a daflunir, a fydd yn ymateb i’r delweddau a’r syniadau yn Sraunus, eu hadlewyrchu a’u datrys.

Ffotograffwyr: Thomas Albdorf, Aurélien Arbet, Flemming Ove Bech, Alexander Binder, Lucas Blalock, Billy Buck, Maryanne Casasanta, Bridget Collins, Grant Cornett, Elspeth Diederix, Bobby Doherty, Bryan Dooley, Jessica Eaton, Jérémie Egry, Thobias Fäldt, Philip Gaißer, Nicholas Gottlund, Freddy Griffiths, Paul Herbst, Go Itami, Klara Källström, Jennilee Marigomen, Max Marshall, Sylvain-Emmanuel P, Paul Paper, Facundo Pires, Nicolas Poillot, Nerijus Rimkus, Johan Rosenmunthe, Jaap Scheeren, Maurice Scheltens & Liesbeth Abbenes, Adam Schreiber, Brea Souders, Kate Steciw, Ugnė Straigytė, Jessica Williams, Kimm Whiskie, Ann Woo, David Zilber.

https://www.facebook.com/events/550461804998339/