Mercher 15 Mai
Chapter
Cyf: Gideon Koppel
Cymru/2008/94mun/U.
Ffilm wedi’i gosod mewn cymuned amaethyddol fechan yng nghanolbarth Cymru – y fan lle’r ymgartrefodd rhieni Koppel, y ddau ohonynt yn ffoaduriaid. Mae tirwedd a phoblogaeth yr ardal yn newid yn gyflym wrth i amaethyddiaeth ar raddfa fechan ddiflannu ac wrth i’r genhedlaeth a fu’n byw mewn byd cyn-fecanyddol farw. Wedi’i ddylanwadu gan ei sgyrsiau â’r awdur Peter Handke, mae’r gwneuthurwr ffilm yn ein harwain ar daith farddonol a dwys i fyd o derfyniadau a dechreuadau; byd o dylluanod wedi’u stwffio, defaid a thân.
Gyda sesiwn holi-ac-ateb â’r Cyfarwyddwr, Gideon Koppel