Platfform 4

29 Mai
29 Mai
2013

 

Platform

“Does dim byd ar ôl i dynnu lluniau ohono”

29 May, 6.30pm

Fire Island, 25 Stryd Westgate, Caerdydd CF10 1DD

Am ddim

BWCIWCH NAWR

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau gyda’r hwyr mewn lleoliadau ledled y ddinas, bob un ar un o themâu Platfform, dan arweiniad artistiaid a meddylwyr blaenllaw. Bydd yn gyfle i drafod a myfyrio mewn lleoliad anffurfiol.

Awdur a churadur yn gweithio yn Llundain yw Daniel Campbell Blight sydd â diddordeb penodol yn hanes a theori ffotograffiaeth ac astudiaethau diwylliant a’r cyfryngau. Mae’n gweithio yn adran addysg The Photographers’ Gallery ar hyn o bryd a chyn hynny, ef oedd Cyfarwyddwr Curadurol Hotshoe Gallery (2009-2011) a bu’n guradur yn Oriel Fulham Palace gyda Bwrdeistref Llundeinig Hammersmith a Fulham (2007-2010). Mae wedi darlithio, tiwtora, cynnal seminarau a goruchwylio traethodau ymchwil mewn prifysgolion Prydeinig a rhyngwladol yn cynnwys y Coleg Celf Brenhinol, Prifysgol Brighton, Coleg Cyfathrebu Llundain, Prifysgol Copenhagen ac Academi Gelfyddydau Estonia. Mae’n gyfrannwr i sawl cyhoeddiad yn cynnwys 1000 Words PhotographyThe Guardian, Notes on MetamodernismPhilosophy of Photography Source. Mae ganddo MPhil o adran Celf a Dylunio Cyfathrebu y Coleg Celf Brenhinol, a BA mewn Celf a Dylunio Sain o Goleg Cyfathrebu Llundain, Prifysgol y Celfyddydau, Llundain.