Photomarathon 2013

25 Mai
– 2013
Photomarathon 2012
Photomarathon 2012

Dydd Sadwrn 25 Mai

Cychwyn yng Canolfan y Mileniwm

Am wybodaeth pellach a manylion mynediad:
www.photomarathon.co.uk

Cystadleuaeth â thro yn ei chwt yw Photomarathon. Dros gyfnod o 12 awr, mae’n rhaid i gystadleuwyr dynnu 12 llun ar 12 pwnc penodol. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un sydd â angerdd am gymryd lluniau – y cyfan sydd ei angen yw camera digidol a digon o ddychymyg. Gyda 400 o gystadleuwyr yn cymryd rhan, bydd y digwyddiad yn ddathliad gwych o greadigrwydd ac ysbrydoliaeth ac yn gyfle unigryw i grwydro ein prifddinas.

Eleni fydd y nawfed Photomarathon blynyddol i’w chynnal yn y brifddinas a bydd yn digwydd ar Ddydd Sadwrn, Mai 25ain. Bydd yr holl luniau a gymerwyd ar y diwrnod yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa arbennig i’w chynnal ym mis Mehefin.