
Dydd Sul 26 Mai 2013, 11am – 5pm
Sinema 2, Chapter
£15 / BWCIWCH NAWR
Chair: Christiane Monarchi (Photomonitor)
Siaradwyr: Melinda Gibson (artist), Ken Grant (University of South Wales), Harry Hardie (HERE Press), Edgar Martins (artist), Rodrigo Orrantia (Lucid-ly), William Sadowski (Photobook Show), Emmanuelle Waeckerle (the bookRoom), Thijs groot Wassink (Wassink/Lundgren)
Bydd yn digwyddiad hwn yn esgor ar ddialog ac ymholiad creadigol i faes cyhoeddi ffotograffiaeth gelf a dogfennol heddiw, gyda rhaglen fywiog o gyflwyniadau a thrafodaethau panel. Gan ddod â ffotograffwyr, cyhoeddwyr ac arbenigwyr eraill o’r diwydiant ynghyd, bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar newidiadau mewn cyhoeddi; mecanwaith cynhyrchu a dosbarthu; etifeddiaeth, cyd-destunau ac ystyried arddangosfeydd o ffotolyfrau. Bydd Ken Grant nôl hefyd ar gais y cyhoedd yn cyflwyno Adolygiadau Llyfrau 5-munud newydd.
Gwybodaeth am fwcio a rhaglen i ddilyn yn fuan.