
Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown
5 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd, CF10 5AG
11 – 31 Mai, dydd Mawrth – dydd Gwener 10am – 5pm; Penwythnosau/Gwyliau Banc 11am – 4.30pm
Noson Agoriadol – dydd Gwener 10 Mai 2013
Nowicki vs. Karanka: Trusted Visions yn cyflwyno gwaith dau o ymddiriedolwyr y Third Floor Gallery; Bartosz Nowicki a Joni Karanka. Mae’r ddwy weledigaeth a’u gwreiddiau mewn traddodiadau dogfennol penodol ond gwahanol; mae un yn ymwneud ag ymwybyddiaeth ddwys o le a’r bobl sy’n byw, tra bod y llall yn cynnig safbwynt o’r tu allan ar le penodol.