Notebook on Cities and Clothes

14 Mai
– 2013
Wim Wenders, Notebooks on Cities and Clothes, film still
Wim Wenders, Notebooks on Cities and Clothes, llun llonydd o’r film

Come Along Do: Notebook on Cities and Clothes

Wim Wenders/1989/Yr Almaen/79mun/NC/Ffrangeg a Japanaeg gydag is-deitlau

Nos Fawrth 14 Mai, 6.30pm

£2.50 / BWCIWCH NAWR 029 2030 4400 / www.chapter.org

(nifer gyfyngedig o lefydd, felly bwciwch mewn da bryd. Rhaid prynu tocynnau ar gyfer y ffilm ar wahân)

Mae’r cyfarwyddwr toreithiog o’r Almaen, Wim Wenders yn ymdrin â phwnc y dylunydd ffasiynau o Japan, Yohji Yamamoto, wrth i hwnnw baratoi i gyflwyno’i ddyluniadau am y tro cyntaf ym Mharis. Mae’r ffilm yn fyfyrdod gan y cyfarwyddwr ar astudio celfyddyd, a’r dewisiadau a wyneba o ran cyfrwng i’w ddefnyddio i gyfleu ei syniadau, yn gymaint ag yw’n ymdriniaeth o athroniaeth a gwaith y dylunydd. Yn y digwyddiad hwn wedi’r dangosiad, a gadeirir gan Gill Nicol a Mike Tooby, defnyddir Notebook on Cities and Clothes fel man cychwyn trafodaeth fanwl a bywiog sy’n archwilio celf a ffilm yng nghyd-destun gosodwaith Mike Tooby, At The Mad Shepherdess.