Lansio Arddangosfa ffotohive

29 Mai
29 Mai
2013

 

ffotohive

Gyda thrac sain byw gan Tom Raybould

Tramshed

Dydd Mercher 29 Mai, 5pm

Trwy gydol mis Mai, gwahoddwyd trigolion ac ymwelwyr â Chaerdydd i gyfrannu at gyfres o luniau collage ar-lein unigryw ar gyfer ffotohive. Tynnwyd ffotograffau mewn chwe safle penodol a elwir yn ‘gychod’ o gwmpas y ddinas, a’u trydar a’u lanlwytho fel rhan o’r celfwaith digidol bythol-gyfnewidiol hwn sy’n darlunio’r ddinas. Arddangosir y celfwaith yn y Tramshed am dridiau olaf yr ŵyl, a chaiff ymwelwyr gyfle i gymryd rhan yn y project yn y cwch sydd newydd ei ddadorchuddio yn Tramshed.

Bydd agoriad yr arddangosfa yn cynnwys trac sain byw gan y cerddor Tom Raybould (Arc Vertiac).