
Kjell-Åke Andersson
Y Tŷ Weindio, Stryd y Groes, Tredegar Newydd, Caerffili, NP24 6EG
4 Mai 2013 – Mawrth 2014, 10am – 5pm Mawrth – Sul
Am ddim
Yn y 1970au teithiodd y ffotograffydd o Sweden Kjell-Åke Andersson i Fargoed lle creodd gyfres ysgubol o weithiau. Gan fyw ymhlith y bobl leol, mae ei ffotograffau di-flewyn-ar-dafod yng Nglofa Bargoed a’r cyffiniau yn darlunio profiad cenhedlaeth o lowyr, tra dengys ei ddelweddau o fywyd ar yr aelwyd a’r cefndir cymdeithasol gryfder y gymuned a’r diwylliant lleol.
Mae delweddau hynod a phersonol Andersson yn gofnod unigryw o ffordd o fyw nodweddiadol cymunedau glofaol cymoedd de Cymru.