Cyfarfyddiadau Caerdydd
1 – 31 Mai / diffusionfestival.org
Ar eich ffordd drwy’r ddinas, rhannwch eich cyfarfyddiadau Caerdyddiol gan ddefnyddio #cardiffencounters ar Instagram. Ai cyfarfyddiad bob-dydd yw hwn neu un nas cafwyd o’r blaen? Ai cyfarfyddiad gyda thrigolion y ddinas, tirnodau, profiadau neu rywbeth na sylwodd neb ond chi arno? Os nad ydych yn gyfarwydd ag Instagram, gellir lawrlwytho’r ap am ddim ar y rhan fwyaf o ffonau symudol. Os mynnwch, rhowch bennawd ar eich llun, yn dweud mwy wrthym am y cyfarfyddiad. Gosodir detholiad o ddelweddau â’r tag #cardiffencounters ar wefan Diffusion