Penwythnos Cyhoeddi
Ffair Lyfrau, Symposiwm a Digwyddiadau dan arweiniad Artistiaid
Dydd Sadwrn 25 a Dydd Sul 26 Mai 2013
Cynhelir pob digwyddiad yn Chapter
Bwcio’n: 029 2030 4400 / www.chapter.org
Mae’r digwyddiad penwythnos hwn, a drefnwyd trwy bartneriaeth rhwng Ffotogallery a Chapter, yn rhoi’r ffocws ar gyhoeddi, o weithgareddau hunan-gyhoeddi artistiaid i gwmnïau cyhoeddi sefydliedig, mwy, cylchgronau ac orielau.
Ffair gyhoeddi
Dydd Sadwrn 25 Mai, 11am – 5pm a Dydd Sul 26 Mai, 10am – 5pm
Mynediad am ddim
Mae’r ffair gyhoeddi yn croesawu pawb i ddathlu, archwilio a mynd i’r afael â chyfoeth o gelfyddydau llyfrau cyfoes a gwaith argraffu. Ar ddydd Sadwrn bydd cyfres o sesiynau CacA gyda chyfranwyr dethol, a cheir gwahanol achlysuron lansio ac arwyddo trwy gydol y penwythnos.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Symposium Ffotolyfr
Dydd Sul 26 Mai 2013, 11am – 5pm
£15 / BWCIWCH NAWR
Bydd yn digwyddiad hwn yn esgor ar ddialog ac ymholiad creadigol i faes cyhoeddi ffotograffiaeth gelf a dogfennol heddiw, gyda rhaglen fywiog o gyflwyniadau a thrafodaethau panel.
Gan ddwyn ynghyd ffotograffwyr, cyhoeddwyr ac arbenigwyr eraill, bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar newidiadau mewn dulliau cyhoeddi, cyllid preifat v. torf-gyllido, a modelau dosbarthu.
Gwybodaeth am fwcio a rhaglen i ddilyn yn fuan.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Off The Page
Sadwrn 25 Mai, 6pm / £2.50
Mae Off the Page, a guradir gan yr artist Samuel Hasler, yn noson wreiddiol a bywiog o weithiau celf fel gair llafar a pherfformiad, gyda Tim Bromage, Sam Playford-Greenwell a Marie Toseland. Bydd pawb yn cyflwyno’u gwaith trwy ddulliau unigryw a phersonol. Orig o le i fwynhau terfynau mwy hynod iaith a chelfyddyd gyfoes.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Zine-a-thon
Sadwrn 25 Mai, 11am – 1pm or 2 – 4pm / Am ddim (oed 12+)
Dewch i ddysgu sut i wneud eich cylchgrawn bach neu ‘zine’ llungopi eich hun, gyda’r artist a sylfaenydd y label recordio DIY, Mark Thomas. Llyfrynnau papur hunan-gyhoeddedig â lluniau a delweddau yw ‘zines’ (talfyriad am fanzines neu magazines). Gan olrhain eu hanes o’u gwreiddiau yn y sîn gerddorol danddaearol tan heddiw, archwilir sut y gallant fod yn gyfrwng mynegiant difyr a chreadigol. Dewch ag unrhyw ffotograffau neu ddelweddau yr hoffech eu cynnwys. Mae’r digwyddiad hwn yn rhedeg yn gyfochrog â Phenwythnos Cyhoeddi Diffusion.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Zinesters
Sul 26 Mai, 5pm / £5
Shape Records a Chapter yn cyflwyno rhaglen o berfformiadau gan fandiau ac artistiaid sy’n cyhoeddi eu zines eu hunain fel rhan o’u gwaith. Creir zine byw yn ystod y digwyddiad y gall y gynulleidfa gyfrannu iddo – gyda ffotograffau, meddyliau, lluniau – a mynd ag ef adref gyda nhw ar ddiwedd y noson.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gweithdy Print Caerdydd
Sad 25 & Sul 26 Mai / 11am – 5pm
Tŷ’r Farchnad, Heol y Farchnad, CF5 1QE
I gydredeg â’r Penwythnos Cyhoeddi yn Chapter, bydd Gweithdy Print Caerdydd yn agor i’r cyhoedd gydag arddangosfa newydd ac arwerthiant o lyfrau artistiaid o waith llaw.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gweithdy Rhwymo Llyfrau
Sad 25 & Sul 26 Mai, 10am – 1pm / £15 (yn cynnwys defnyddiau) / oed 16+
Gweithdy Print Caerdydd
Ewch â’ch llyfrau gwaith-llaw adre, fe wnânt anrhegion gwych!
Dysgwch sut i blygu, pwytho a rhwymo llyfrau gwaith-llaw. Cewch ddysgu sut i wneud dau fath, llyfr traddodiadol rhwymiad-ochr a all fod yn llyfr nodiadau hwylus neu’n albwm lluniau, a llyfr consertina arbrofol, difyr, a all gynnwys pocedi cudd neu bapur wedi ei dorri allan. Dewch ag unrhyw bapur, lluniadau neu ffotograffau yr hoffech eu cynnwys yn eich llyfr gyda chi.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth