Humberto Gatica

From Memory Tree, 2013 © Humberto Gatica
From Memory Tree, 2013 (h) Humberto Gatica

Cafodd Humberto Gatica ei eni a’i addysgu yn Chile.  Mae Gatica wedi arddangos ei waith yn unigol ac fel rhan o grŵp, ac yn 2009 enillodd y wobr gyntaf yn Abertawe Agored.  Mae Gatica wedi cyhoeddi dau gasgliad o farddoniaeth:  Ring Y Otros Poemas (1987) a The Sand Garden (2008, Llyfrau Hafan). Mae ei farddoniaeth wedi cael ei chyfieithu i’r Gymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg ac mae wedi’i chyhoeddi mewn cylchgronau print ac ar-lein yn Ewrop ac America Ladin, gan gynnwys Solar (Mecsico); Noticias, Exiled Ink (Llundain); La Cita Trunca (Canada); Sech (Chile) a chasgliadau fel Haiku, Poetry Ancient & Modern (MQP, 2002); Another Country, Haiku poetry from Wales (Gomer 2011);  Barbered Wire Blossom ac Antholeg Gwobr Lenyddiaeth The Museum of Haiku 1992 – 2011 (Cymdeithas Haiku Prydain, 2012). Mae’n cynnal gweithdai technegol yn yr Ysgol Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.