Nothing is what it is (detail), 2013 © Holly Davey
Nothing is what it is (manylion), 2013 (h) Holly Davey

 

Nothing Is What It Is Because Everything Is What It Isn’t

9 Mawrth
1 Medi
2013

Holly Davey

Gosodwaith ffotograffig penodol i’w safle yw Nothing Is What It Is Because Everything Is What It Isn’t sy’n archwilio’r grisiau ac ardal y landin yn orielau cyfoes yr Amgueddfa. Mae Holly Davey wedi tynnu lluniau o’r gofod i greu collage digidol lle caiff y gofod ei ail-greu, ei ailadrodd a’i ailchwarae o fewn i’r bensaernïaeth wreiddiol. Mae ailddychmygu’r grisiau fel hyn yn achosi teimlad o ddryswch, sy’n achosi i wylwyr gwestiynu eu profiad o’r gofod ymarferol, cyfnewidiol hwn a’u dealltwriaeth ohono. Comisiynwyd Nothing Is What It Is gan yr Amgueddfa Genedlaethol wedi galwad agored am gynigion gan artistiaid yn 2012.

Cefnogir y comisiwn gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.