Uriel Orlow

The Future is History / History is the Future, neon, dimensiynau’n amrywio, 2012
The Future is History / History is the Future, neon, dimensiynau’n amrywio, 2012

Mae Uriel Orlow yn adnabyddus am ei osodiadau modiwlaidd amlgyfrwng sy’n defnyddio lleoliadau a digwyddiadau penodol fel mannau cychwyn ac yn cyfuno ymchwil archifol â delweddau a sain atgofus. Gan weithio ym meysydd fideo, ffotograffiaeth, darlunio a sain, daw Orlow â’r llif delweddau a’r naratifau at ei gilydd.
Astudiodd Orlow Celfyddyd Gain yng Ngholeg Celf a Dylunio Central Saint Martins ac Ysgol Gelf Slade, Llundain, ac athroniaeth ym Mhrifysgol Genefa. Enillodd wobr fawreddog Gwobr Gelf y Swistir yn 2008 a 2009. Mae ei waith wedi’i arddangos yn eang ym Mhrydain, y Swistir ac yn rhyngwladol, ac mae ei ffilmiau wedi’u dangos yn y Tate Modern, Llundain; Gŵyl Ffilmiau Byrion Ryngwladol Oberhausen; Tank.tv; Oriel Whitechapel, Llundain; Gŵyl Ffilmiau Locarno; Videonale Kunstmuseum Bonn; BFI Llundain; Sgrîn Fawr y BBC, Manceinion; Arnolfini, Bryste; a Biennale Delweddau Symudol, Genefa. Mae Orlow yn byw ac yn gweithio yn Llundain a Zurich.