Tina Carr & Annemarie Schöne

Erno Kallai, 2009 © Tina Carr & Annemarie Schöne
Erno Kallai, 2009 (h) Tina Carr & Annemarie Schöne

Mae Tina Carr (ganwyd yn Newcastle, 1950) ac Annemarie Schöne (ganwyd ym Munich, 1947) wedi bod yn cydweithio ers 30 mlynedd ar sawl project amrywiol sy’n cyfuno ffotograffiaeth a fideo.

Mae eu harddangosiadau dethol yn cynnwys:  Call the Witness Archif Gyfryngol yr Ail Bafiliwn Roma, Biennale Fenis (2011); Once We Were Birds, Open Society Institute, Brwsel (2011), Oriel János Balázs, Bwdapest ac Oriel Myrddin, Caerfyrddin (y ddau yn 2010); Coal Faces, Prifysgol Morgannwg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Oriel Q, Arberth a Westfälisches Industriemuseum, Dortmund (2004-9); Eisteddfod Genedlaethol Cymru (2002, 2003, 2005 a 2007).

Mae gwaith Carr a Schöne i’w weld mewn casgliadau cyhoeddus gan gynnwys The Photographer’s Gallery, Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Deutsches Bergbaumuseum, Bochum, yr Almaen; yr Amgueddfa Wyddoniaeth, Llundain ac Archifau Swydd Northumberland.