Timothy Nordhoff

Torrigwynt, 2012 (c) Timothy Nordhoff
Torrigwynt, 2012 (h) Timothy Nordhoff

Ganwyd Timothy Nordhoff ym 1987 ac ar hyn o bryd mae’n byw yng Ngwaen Cae Gurwen yn Nyffryn Aman. Mae’r rhan fwyaf o waith Nordhoff yn ymwneud â materion sy’n cwmpasu traddodiad a diwylliant. Astudiodd ffotonewyddiaduraeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, gan raddio yn 2012.  Mae gwaith Nordhoff wedi ymddangos mewn arddangosfeydd, yn genedlaethol a rhyngwladol, ac wedi’i gyhoeddi mewn nifer o gylchgronau megis cylchgrawn Prism a World of Photography (cyfrol 2). Ar hyn o bryd mae gwaith Nordhoff yn rhan o arddangosfa dan law curadur Magnum Photographer, Antoine d’Agata. Yn 2012, dewiswyd Nordhoff i gymryd rhan mewn gweithdy gyda d’Agat, dan Atelier de Visu, ym Marseille, Ffrainc.  Cafodd ei enwebu yng Ngwobr Bwrsari Israddedigion y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol a Canon yn 2011.

Gwefan yr artist