Sebastian Liste

From Urban Quilombo, 2009 - 11 © Sebastian Liste
Urban Quilombo, 2009 – 11 (h) Sebastian Liste

Ganed Sebastian Liste ym 1985 yn Alicante, Sbaen. Cafodd radd Baglor Cymdeithaseg yn UNED, a Gradd Meistr Celfyddydau mewn ffotonewyddiaduraeth ym Mhrifysgol Awtonomaidd Barcelona. Mae gwaith dogfennol eang Liste wedi canolbwyntio ar fywydau cymunedau amrywiol ledled y byd. Mae’n byw ym Mrasil a Sbaen ar hyn o bryd.

Mae gwaith Liste wedi’i arddangos yn rhyngwladol mewn nifer o arddangosfeydd a gwyliau yn cynnwys Visa Pour l´Image (Ffrainc, 2012); Look3 Festival of the Photograph (Yr UDA, 2012); FotoLeggendo Festival (Yr Eidal, 2012); ImageSingulieres Festival (Ffrainc, 2012); Galerie de l´Instant (Ffrainc, 2012); Lumix Festival for Young Photojournalism (Yr Almaen, 2012); Noorderlicht Photo Festival (Yr Iseldiroedd, 2011); Angkor Photo Festival (Cambodia, 2011); The New York Photo Festival (Yr UDA, 2011); Speos Gallery (Paris, 2011); Ring Cube (Tokyo, 2011); Maison des Arts du Grutli (Y Swistir, 2011); Gallery 291 (San Francisco, 2011); Getty Images Gallery and Host Gallery (Llundain, 2010).

Gwefan yr artist