Sean Edwards

from Gilfach Quilters' A Ffotogallery Residency in the South Wales Valleys 2013 © Sean Edwards
from Gilfach Quilters’ A Ffotogallery Residency in the South Wales Valleys 2013 © Sean Edwards

Enillodd Sean Edwards (ganed yng Nghaerdydd ym 1980, byw yn Y Fenni erbyn hyn) ei BA Celfyddyd Gain yn Athrofa Prifysgol Cymru (2003) a’i MA Celfyddyd Gain o Slade (2005). Ymhlith ei sioeau diweddaraf a’r rhai sydd ar ddod mae Chapter Caerdydd (2013); Kunstverein Freiburg, Freiburg ac Oriel Tanya Leighton, Berlin (2012); Spike Island, Bryste (2011) – ac ymhlith y sioeau grŵp mae Casgliad Zabludowicz (2011); Galeria Marz, Lisbon ac Oriel Wallspace, Efrog Newydd (y ddwy yn 2010); Oriel Lisson Llundain (2009); The Approach, Llundain; Frank Elbaz and Art: Concept, y ddwy ym Mharis; Centre, Berlin (oll yn 2008) a Tanya Bonakdar, Efrog Newydd (2007).