Mindaugas Ažušilis

From Happiness in Lithuania, 2012 © Mindaugas Ažušilis
Happiness in Lithuania, 2012 (h) Mindaugas Ažušilis

Mindaugas Ažušilis (ganwyd yn 1987) yw un o ffotograffwyr celf ifanc mwyaf addawol Lithiwania. Mae wedi gweithio fel ffotograffydd celf gain ers 2005, gan gyfrannu at arddangosiadau grŵp yn Lithiwania, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg, Portiwgal a Rwsia. Mae Ažušilis wedi arddangos ei waith ac ennill gwobrau mewn sawl cystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol gan gynnwys Circulations: Young European Photography, Paris; Encontros da Imagen, Braga, Portiwgal a’r Biennial Ffotograffiaeth Baltig. Cyhoeddwyd ei lyfr lluniau cyntaf Happiness in Lithuania yn 2012.

Gwefan yr artist