Maurizio Anzeri

Portrait Yellow, 2012. Embroidery on photo, 23.5 x 18cm © Maurizio Anzeri
Portrait Yellow, 2012. Brodwaith ar ffoto, 23.5 x 18cm (h) Maurizio Anzeri

Ganed Maurizio Anzeri yn Loano, yr Eidal ym 1969. Astudiodd am radd BA yng Ngholeg Celfyddydau Camberwell ac am MFA yn Ysgol Gelfyddyd Gain Slade. Mae’n byw yn Llundain.

Arddangoswyd gwaith Anzeri yn rhyngwladol ac mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Canolfan Gelf Gyfoes BALTIC, Gateshead (2011); The Garden Party, Q Forum, Llundain,  LUNATICO, Oriel Rupert Pfab, Dusseldorf, Yr Almaen, a Darwin’s Tears, Oriel Luce, Turin, Yr Eidal (oll yn 2010); I will buy the flowers myself, Riflemaker, Llundain (2009). Mae ei arddangosfeydd grwp yn cynnwys Project Gwadd Ffair Gelf Shanghai, Shanghai, China (2012); Version and Diversions, Oriel Temple Bar, Dulyn (2011); ac One Night In Paris, The Photographer’s Gallery, Llundain (2009).Ceir ei waith mewn casgliadau ledled y byd, yn cynnwys Saatchi, Gagosian, Rothschild, a Chasgliad Alexander McQueen.

Gwefan yr artist