Maurice Broomfield

Preparing a Warp, British Nylon Spinners, Pontypool, 1964 © Maurice Broomfield
Preparing a Warp, British Nylon Spinners, Pontypool, 1964 © Maurice Broomfield

Ganed Maurice Broomfield yn Draycott, Swydd Derby, ll roedd ei dad yn wneuthurwr les. Ym 1931, yn 15 oed, gweithiodd ar linell gynhyrchu Rolls-Royce, gan hefyd fynychu dosbarthiadau nos yng Ngholeg Dylunio Derby, lle canfu ei ddawn ffotograffiaeth a roddodd fodd iddo ddianc o lawr y ffatri.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd Maurice yn Uned Ambiwlans y Cyfeillion, gan helpu’r rhai a anafwyd yn y blitz, ac ar ôl hynny teithiodd o amgylch Ewrop, yn tynnu lluniau o’r dinasoedd adfeiliedig. Ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, sefydlodd bartneriaeth yn Llundain gyda’r ffotograffydd masnachol a phortreadau profiadol Yevonde Cumbers Middleton, a elwid yn Madame Yevonde. Yna dechreuodd Broomfield broject a fyddai’n para 30 mlynedd – sef dogfennu anterth diwydiant Prydain.

Bu farw yn 2010.

Gwefan yr artist