John Paul Evans

Home & Away, 2013 © John Paul Evans
Home & Away, 2013 © John Paul Evans

Ffotograffydd a aned yng Nghymru ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nyfnaint yw John Paul Evans. Mae ei waith yn ystyried y dadleuon ynghylch y ffyrdd y caiff dynion eu darlunio o fewn y cyd-destun patriarchaidd. Mae John Paul wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei arddangosfeydd unigol yn cynnwys Bed Sheet Dreams 2005, The Room Gallery, Llundain. A Different Point of View 1999, CBAT Caerdydd a chanolfan MAC Birmingham, Dark Secrets…Mortal Thoughts 1997, arddangosfa deithiol a gomisiynwyd gan Amgueddfa ac Oriel Casnewydd a Hunks & Heroes 1996, Castlefield Gallery, Manceinion. Mae ei waith wedi ymddangos yn yr arddangosfeydd grŵp canlynol;  Unreliable Truths 2008, Oriel Glynn Vivian, Sitting Room 2007-8, a Barbarella 1998-9, arddangosfa deithiol ar gyfer Cyngor Swydd Caint. Mae ei waith wedi ymddangos yn y cyhoeddiadau canlynol; Male Bodies gan Emmanuel Cooper, 2004; Art Tomorrow gan Edward Lucie-Smith, 2003; Fully Exposed gan Emmanuel Cooper, 1995.   Ar hyn o bryd mae John Paul yn gweithio fel Uwch Ddarlithydd Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Gwefan yr artist