John Duncan

From Boom Town, 1999 © John Duncan
O Boom Town, 1999 (h) John Duncan

Ganed John Duncan ym Melfast (1968) ac astudiodd HND mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd yng Nghymru (1989) a Ffotograffiaeth Celf Gain yn Ysgol Gelf Glasgow (1992).  Ar hyn o bryd mae’n byw ac yn gweithio ym Melfast.

Mae arddangosiadau diweddar yn cynnwys:  Bonfires and then Beacons, Biennial Ffotograffiaeth Helsinki ac Observers: Photographers of the British Scene from the 1930s to now, wedi’i guradu gan Joao Kulcsar a Martin Caiger-Smith, Galeria de Arte SESI Sao Paulo (y ddau yn 2012); Loaded Landscapes, wedi’i guradu gan Natasha Egan, Amgueddfa Ffotograffiaeth Gyfoes Chicago a A Shout in the Street Collective Histories of Northern Irish Art, wedi’i guradu gan Declan McGonagle, Golden Thread Gallery, Belfast (y ddau yn 2007). Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys Bonfires a gyd-gyhoeddwyd gan Belfast Exposed, Photoworks a Steidl 2008.

Gwefan yr artist