Jeremy Deller

Jeremy Deller, From So Many Ways to Hurt You. Photo Dennis Hutchinson
Jeremy Deller, From So Many Ways to Hurt You. Photo Dennis Hutchinson

Mae Jeremy Deller yn artist sy’n creu gwaith eclectig sy’n ymgysylltu â diwylliant poblogaidd a thraddodiadol ar lefel eang. Aiff i fyd celf gwerin isddiwylliannol, gwrth-drefol a nodweddir gan ysgafnder difyr. Mae’n aml yn cydweithio. I waith Acid Brass ym 1996, a gyflwynwyd yn fyw ac ar gryno-ddisg, bwriodd ati i newid nifer o anthemau acid house yn ddarnau i fand pres traddodiadol. Daliodd ati â’r dull hwn yn arddangosfa The Uses of Literacy (1997), lle arddangosodd ddeunydd gan ffans grŵp roc y Manic Street Preachers.

Mae wedi arddangos yn helaeth ac yn 2012 cafodd sioe ôl-syllol Joy in People yn Oriel Haywood Llundain. Bydd yn gwneud cyflwyniad unigol ym Mhafiliwn Prydain yn Biennale Fenis yn 2013.

 Gwefan yr artist