Gideon Koppel

Gideon Koppel, B O R T H, 2012 (film stills)
B O R T H, 2012, (h) Gideon Koppel

Bu Gideon Koppel yn fyfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol Gelfyddyd Gain Slade yn arbenigo mewn cyfryngau cymysg. Cafodd gwaith Koppel fel artist a gwneuthurydd ffilmiau ei ddarlledu’n rhyngwladol a’i arddangos mewn orielau yn cynnwys Tate Modern, Llundain a MoMA, Efrog Newydd. Ar ôl dangosiad cyntaf ei osodwaith ffilm ar gyfer y cwmni ffasiwn o Japan, Comme des Garçons yn Biennale Fflorens, gofynnwyd i Koppel gyfarwyddo nifer o ffilmiau hysbysebu. Enwebwyd ei ffilm hyd-llawn, Sleep Furiously, gyda thrac sain gan Aphex Twin, ar gyfer y Llewpart Aur yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Locarno ac enillodd Wobr Ffilm Hyd-llawn Gyntaf y Guardian 2010.

Mae Koppel yn Athro Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gymrodor Cysylltiedig Coleg Green Templeton, Prifysgol Rhydychen.