Elin Høyland

The Brothers, 2001-2002 © Elin Høyland
The Brothers, 2001-2002 (h) Elin Høyland

Bu’r ffotograffydd o Norwy, Elin Høyland, yn gweithio ar ei liwt ei hun i nifer o bapurau newydd blaenllaw yn cynnwys y Guardian. Mae ar hyn o bryd yn ffotograffydd gyda Business Daily Norwy ac arddangoswyd ei gwaith yn eang yn Ffrainc, UDA, China, Scandinafia a’r DU.

Cyhoeddwyd The Brothers, gyda thraethawd gan Gerry Badger, yn 2011 gan Dewi Lewis Publishing yn y DU, ac mae eisoes yn ei ail argraffiad. Rhestrwyd y gyfrol gan y Guardian fel un o ddeg llyfr ffotograffiaeth uchaf y flwyddyn yn 2011, a chafodd ei gymeradwyo a’i adolygu yn eang.

Gwefan yr artist