Edgar Martins

Lindoso power station: control room (frontal view), 2012 (c) Edgar Martins
Lindoso power station: control room (frontal view), 2012 (h) Edgar Martins

Ganed Edgar Martins yn Évora, Portiwgal, ond fe’i magwyd ym Macau. Ym 1996 symudodd i’r DU lle cwblhaodd MA mewn Ffotograffiaeth a Chelfyddyd Gain yn y Coleg Celf Brenhinol (Llundain). Cynrychiolir ei waith yn rhyngwladol mewn sawl casgliad amlwg, yn cynnwys y V&A (Llundain), Amgueddfa’r Cyfryngau (Bradford, DU), Amgueddfa Gelf Dallas (UDA); Fundação Calouste Gulbenkian (Lisbon), Fundação EDP (Lisbon), Fondation Carmignac (Paris) ymhlith eraill. Detholwyd Martins i gynrychioli Macau ym 54ydd Biennale Fenis.

Yn 2008, derbyniodd Martins Wobr Ffotograffiaeth agoriadol Efrog Newydd (categori Celfyddyd Gain) ac yn 2009 dyfarnwyd iddo Wobr Ffoto BES (Portiwgal), yn ogystal â Gwobr Ffotograffiaeth Fyd-eang SONY (categori Tirlun). Yn fwy diweddar, derbyniodd Martins y wobr gyntaf yng nghategori Celfyddyd Gain – Haniaethol Gwobrau Ffotograffiaeth Rhyngwladol 2010 yn ogystal â chael ei enwebu ar gyfer Prix Pictet 2009.

Mae The Time Machine a This is not a House, projectau diweddar Martins, wedi teithio i sawl amgueddfa ac oriel gyhoeddus o fri, yn cynnwys Museu da Electricidade (Lisbon), Centro de Arte Moderna Graça Morais (Bragança, Portiwgal), Oriel Celfyddyd Newydd Walsall (Walsall, DU), Project Wapping (Llundain) a’r Oriel Ffotograffiaeth (Dulyn, Iwerddon) ymhlith eraill. Disgwylir i’r gweithiau hyn fod ar daith tan 2015.

Mae Edgar Martins yn byw a gweithio yn y DU.

Gwefan yr artist