Angharad P Jones

“This Way Please ….” / “Ffordd ‘Ma Plis….”, dur wedi’i beintio, MDF wedi’i beintio, 4 x 5 m. Llun: Betina Skovbro
“This Way Please ….” / “Ffordd ‘Ma Plis….”, dur wedi’i beintio, MDF wedi’i beintio, 4 x 5 m. Llun: Betina Skovbro

Arbenigedd Angharad Pearce Jones yw gosodiadau a cherfluniau mawr, amlgyfrwng. Ei harbenigedd technegol craidd yw ffurfio ac adeiladu gyda dur, ac mae nifer o’i gweithiau hyd yma’n ymholiadau hunanfywgraffiadol, dychanol ar dueddiadau cymdeithasol a rolau dynion a menywod yn y gweithle.

Hyfforddodd Jones yn Brighton a Chaerdydd, ac mae wedi arddangos yn orielau’r ddwy ddinas, a mewn gwyliau dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Yn eu plith mae Chapter, Oriel Gelf Glynn Vivian, Arddangosfa Agored yr Eisteddfod Genedlaethol, Locws International ac yn ddiweddarach, Beyond Pattern, taith arddangos Oriel Davies i dri lleoliad yn Lloegr. Mae ei gwaith hefyd wedi’i arddangos mewn sioeau yn Zagreb, Croatia a Brno yn y Weriniaeth Siec, a hi oedd prif ddylunydd Arddangosfa Cymru yng Ngŵyl y Smithsonian, Washington DC, yn 2009.